Hafan > Polisi Diogelu
Polisi Diogelu
Pwrpas y datganiad polisi yw:
- Gwarchod plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed.
- Rhoi i staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â phlant, pobl ifanc ac oedolion yr egwyddorion sylfaenol sy’n llywio ein hagwedd at ddiogelu.
Mae’r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un sy’n gweithio ar ran Menter Iaith Gwynedd gan gynnwys y Bwrdd Rheoli, Swyddogion, isgontractwyr a defnyddwyr
Fframwaith Cyfreithiol
Lluniwyd y polisi hwn ar sail deddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy’n ceisio diogelu plant ac oedolion yng Nghymru.
Prif ffynonellau:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru 2020
- Deddf Plant 1989
Dogfennau Ategol
Dylid darllen y datganiad polisi hwn ochr yn ochr â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ein sefydliad, a dogfennau perthynol eraill gan gynnwys: -
- Disgrifiad o rôl y swyddog diogelu dynodedig
- Ymdrin â datgeliadau a phryderon am blentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn
- Rheoli honiadau yn erbyn staff
- Cofnodi pryderon a rhannu gwybodaeth
- Recriwtio mwy diogel
- Canllawiau ar ffotograffiaeth a rhannu delweddau
- Gwrth-fwlio
- Rheoli cwynion
- Chwythu’r chwiban
- Iechyd a diogelwch
- Hyfforddiant cynefino, goruchwylio a chefnogaeth
Yr ydym yn credu: -
- Na ddylai plant, pobl ifanc nac oedolion fyth brofi camdriniaeth o unrhyw fath.
- Fod gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo lles pob plentyn, person ifanc ac oedolyn, i’w cadw’n ddiogel ac i weithio mewn ffordd sy’n eu gwarchod.
Yr ydym yn cydnabod fod: -
- Lles plant yn flaenaf yn yr holl waith a wnawn a’r holl benderfyniadau a gymerwn.
- Gan bob plentyn, person ifanc ac oedolyn waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol hawl cyfartal i gael eu gwarchod rhag pob math o gamdriniaeth a niwed.
- Rhai pobl yn fwy bregus oherwydd effaith profiadau blaenorol, lefel eu dibyniaeth, anghenion cyfathrebu neu faterion eraill.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant, pobl ifanc, eu gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol o ran hyrwyddo lles pobl.
Byddwn yn ceisio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel trwy wneud y canlynol:
- Rhoi gwerth arnynt, gwrando arnynt a’u parchu
- Penodi arweinydd a dirprwy diogelu enwebedig ac Aelod Bwrdd arweiniol sy’n gyfrifol am ddiogelu.
- Mabwysiadu arferion gorau diogelu trwy ein polisi a’n gweithdrefnau cysylltiedig
- Darparu rheolaeth effeithiol i’r staff trwy oruchwyliaeth, cefnogaeth, hyfforddi a mesurau sicrhau ansawdd fel bod yr holl staff yn gwybod am ein polisïau a’n gweithdrefnau ac yn eu dilyn yn hyderus.
- Recriwtio a dewis staff yn ddiogel gan sicrhau y gwneir yr holl wiriadau
- Gwenud ymholiadau DBS yn rheolaidd yn unol â Chanllawiau Cenedlaethol
- Cofnodi, storio a defnyddio gwybodaeth yn broffesiynol a diogel yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau diogelu data.
- Rhannu gwybodaeth am ddiogelu ac arferion da gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.
- Gofalu fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn gwybod lle i fynd am help os oes ganddynt bryder.
- Defnyddio ein gweithdrefn diogelu i rannu pryderon a gwybodaeth berthnasol gydag asiantaethau sydd angen gwybod a dwyn i mewn blant, pobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr fel sy’n briodol.
- Defnyddio ein gweithdrefnau i reoli unrhyw honiadau yn erbyn staff yn briodol.
- Creu a chynnal amgylchedd gwrth-fwlio a sicrhau fod gennym bolisi a gweithdrefn i’n helpu i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw fwlio sydd yn digwydd.
- Gofalu bod gennym fesurau cwynion a chwythu’r chwiban effeithiol.
- Sicrhau amgylchedd ffisegol diogel trwy gymhwyso mesurau iechyd a diogelwch yn unol â’r gyfraith a chanllawiau rheolaethol.
- Adeiladu diwylliant o ddiogelu lle mae staff, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn trin ei gilydd gyda pharch a lle maent yn gyfforddus ynghylch rhannu pryderon.
Manylion Cyswllt
Swyddog Diogelu Dynodedig:
Meirion Owen,Swyddog Datblygu Iaith
01248 370050
Meirion@menteriaithgwynedd.cymru
Dirprwy Swyddog Diogelu:
Iwan Hywel, Pen Swyddog,
Iwan@menteriaithgwynedd.cymru
Aelod Bwrdd Enwebedig:
Rhys Glyn
Rhysmglyn@gmail.com
Daeth y Polisi hwn i rym gyntaf ar y 5/12/2023
Yr ydym wedi ymrwymo i adolygu ein polisi a’n harferion da yn flynyddol.
Llofnodwyd (Gareth Thomas)
Cadeirydd Bwrdd Rheoli